Panels

Ffion panels

Ers  tua 100 mlynedd, mae aelodau Sefydliad y Merched wedi  ymgyrchu dros gadwraeth er mwyn diogelu’r byd naturiol rhag dirywiad amgylcheddol ac effeithiau newid hinsawdd. Mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o aelodau SyM wedi ymgyrchu ar faterion mor  amrywiol â llygredd dŵr (1936), glaw asid (1985), yr haen osôn  a CFCs (1988), datgoedwigo, (1989), ynni adnewyddol (1977 a 2006), sbwriel – ymgyrch a sylfaenodd un o’r  prif fudiadau amgylcheddol – Cadwch Brydain yn Daclus ym 1954 a ‘Cadwch Gymru’n Daclus’ – ailgylchu a diogelu adnoddau (2005), gwarchod adar (11933), gwenyn mêl (2009) a Gwaredu Cawl Plastig (2017).

Trwy fân newidiadau yn eu bywyd bob dydd neu lobïo gwneuthurwyr polisi fel rhan o’r cynllun Llysgennad Hinsawdd, mae mwy a mwy o aelodau SyM yn gweithredu er mwyn diogelu’r byd i’r oes a ddêl.

Mae dros 2 miliwn tunnell o blastig pacio yn cael ei ddefnyddio bob blwyddyn. Mae 88% o arwynbedd y môr wedi ei lygru á gwastraff plastig. Mae rhwng 8-14 miliwn tunnell yn llifo i’n cefnforoedd bob blwyddyn.

Bob blwyddyn mae 12.7 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein moroedd. Mae’n dianc o’n safleoedd gwastraff, yn arllwys lawr y draen, yn llifo i’n hafonydd ac yn cyrraedd pen y daith yn ein cefnforoedd. Mae effaith gwastraff plastig yn aml y tu hwnt i’r hyn a wêl y llygad. Mae’n ymgasglu a throelli yn encilion y môr lle mae bywyd môr yn bwydo. Nid plastig defnydd-sengl yn unig, fel y botel blasting a’r gwelltyn, ond y gleiniau-meicro yn eich colur, yr edafedd yn eich dillad a defnydd eich bagiau te. Gan mai 1% yn unig o’r gwastraff sy’n arnofio ar wyneb y môr, mae popeth arall yn suddo i’r llawr a llygru safleodd pellennig y ddaear.

Tra bod deddfau yn dod i rym erbyn hyn i roi stop ar ddefnyddio plastig defnydd-sengl, gwir yw dweud fod aelodau SyM wedi bod yn ymgyrchu dros faterion amgylcheddol ers y 1960au a’r 70au.

Yn 1971, gwnaeth SyM adduned i ymchwilio i ‘gynnyrch deunydd-pacio plastig brau’ a’i effaith ar stoc, anifeiliaid eraill, traethau a chefn gwlad.

Yn 2017 bu’r ymgyrch ‘Gwaredu Cawl Plastig’ yn gyfle i ymchwilio i effaith llygredd defnydd meicroplastig ar yr amgychedd. Galwyd ar y Llywodraeth a’r diwydiannau i gynnig datrysiadau. Mae’n fater cymhleth sy’n gyfrifoldeb i ystod eang o randdeiliaid ac mae galw am ymateb gan y diwydiannau dillad a gwastraff dŵr hyd at y llinell gynhyrchu peiriannau golchi.

Ym 1989, rhoddwyd adduned gerbron gan SyM Genau’r Glyn,- Ffederasiwn Dyfed Ceredigion ar y thema Datgoedwigo.

‘Mae’r cyfarfod hwn yn poeni’n fawr am effaith trychinebus a gaiff datgoedwigo ar wyneb y ddaear. Mae’n annog unigolion a sefydliadau i wneud eu gorau glas i berswadio’r Llywodraeth i roi stop ar y difrod sy’n niweidio cydbwysedd ecolegol ein planed i’r fath raddau.

Mae datgoedwigo yn broblem arswydus: rydym yn colli cymaint â 36 cae pêl droed o goed bob munud. Ac er fod pethau wedi gwella rhywfaint dros y 30 mlynedd a aeth heibio, yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, cafodd 420 miliwn hectar  eu dinistrio ers 1990.

Y 5 prif achos sydd wrth wraidd datgoedwigo yw Amaeth, Torri Coed, Cloddio, Ehangu ac Isadeiledd a Newid Hinsawdd.

For nearly 100 years, WI members have led campaigns to conserve the natural world from environmental degradation and climate change. Generations of WI members have used their campaigning might to call for action on issues as diverse as water pollution (1936), acid rain (1985), the ozone layer and CFCs (1988), deforestation (1989), renewable energy (1977 and 2006), litter - a campaign which founded one of Britain’s leading environmental organisations Keep Britain Tidy in 1954 and Keep Wales Tidy– recycling and conservation of resources (2005), and the protection of birds (1933), honeybees (2009) and End Plastic Soup (2017)

Be it making simple swaps in their own lives, or lobbying policymakers as part of the WI’s Climate Ambassador scheme, more and more WI members are taking action to protect our world for generations to come.

Over 2 million tonnes of plastic packaging are used in the UK each year. 88% of the sea's surface is polluted by plastic waste. Between 8 to 14 million tonnes enters our ocean every year.

Yearly, up to 12.7 million tonnes of plastic enters our oceans. It escapes from landfill sites, floats down our drains, ends up in rivers and makes its way into our oceans. A lot of plastic waste is invisible to the naked eye, it collects in ocean gyres, where marine life feeds. It’s not only the single-use plastic, such as plastic bottles and straws you use but the microbeads in your cosmetics, the fibres in your clothing and in your teabags. As only 1% of this plastic floats, everything else sinks to the floor polluting the most remote places on earth.

While laws are beginning to come into force to ban various single-use plastics, the WI has been raising awareness around the impact of plastic on the environment since the 1960s and 1970s.

In 1971, the Women's Institutes proposed a resolution calling for research ‘into the production of disintegrating plastic packaging materials’ due to the increasing danger to livestock, other animals and the spoiling of beaches and the countryside.

Launched in 2017, the WI's End Plastic Soup campaign explores the scale of the microplastic fibre pollution and calls on the government and industry to develop solutions to the problem. The issue is complex and involves a wide range of stakeholders, from the clothing and wastewater treatment industries to washing machine manufacturers.

The 1989 resolution, put forward by Genau’r Glyn– Dyfed Ceredigion Federation concerning Deforestation

'This meeting views with deep concern the deforestation of the surface of the earth and its disastrous consequences. It urges individuals and organisations to do all in their power to impress upon the Government the need to halt extensive damage being done to the ecological balance of our planet'.  June 1989

Deforestation is a major problem: every minute, we lose about 36 football fields worth of trees. And although the rate of loss has slowed over the last 30 years, according to the recent reports over 420 million hectares have been destroyed since 1990.

The 5 major causes of deforestation are Agriculture, Logging, Mining, Expansion and Infrastructure and Climate Change.

ABOUT  FFION GWYN....THE ARTIST  WHO  DESIGNED THE POSTERS

Darlithydd Celf yng Ngholeg Meirion Dwyfor ydi Ffion Gwyn wrth ei gwaith bob dydd ond mae hi’n ymestyn ei dawn fel artisit dipyn pellach na’r ystafell ddosbarth. Gwelir ei phaentiadau tirwedd lleol mewn sawl Oriel ac mae ei gwaith celf natur cywrain i’w weld mewn lluniau a nwyddau ty ledled y wlad.

Pleser oedd cael cynllunio y ddau boster i Sefydliad Y Merched Ceredigion i arwyddo dau ymgyrch Cenedlaethol y Mudiad sef -  Rhoi Terfyn ar Ddadgoedwigo a Rhoi terfyn ar Blastigion yn ein Dyfroedd

A lecturer in Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli, Ffion Gwyn also gives her time to enhance and encourage participation in the Arts in her local community. One can see her own artwork on sale in many Art studios in North Wales and her detailed Bilingual artwork is also available on household items on-line and throughout the country.

It was an honour and a pleasure to design and create the posters for the WI in Ceredigion to promote two of their current National campaigns to Stop Deforestation and Stop Plastics in our Oceans.