Banner History

Penllwyn Banner

PENLLWYN, CAPEL BANGOR (1000 -2000)

1000-1400

Rheolwyd bywyd gan y flwyddyn amaethyddol, gan fod caeau ac anifeiliaid i,w gwarchod.  Byddai Dafydd ap Gwilym, ac yntau yn frodor o Benrhyncoch, wedi bod yn gyfarwydd â thirlun yr ardal hon.  Byddai,r mynachod Sistersaidd o Lanbadadarn ac Ystrad Fflur wedi ymweld â,r gymuned.  Roedd yr Afon Rheidol yn llawn eog a sewin.

1400-1700

Mwy na thebyg fod Owain Glyndwr wedi ennill aelodau newydd i,w fyddin yma, cyn mynd ymlaen i ymladd yn Hyddgen ar Bumlumon.  Efallai i eraill ymuno â Harri Tudur a arhosodd yn Llanbadarn ar ei ffordd i,r gâd ym Maes Bosworth, Swydd Caerlyr.  Yng nghyfnod y Tuduriaid, ymgyfoethogodd masnachwyr Canolbarth Cymru wrth Ai,r porthmyn drwy,r ardal ar eu ffordd i werthu eu gwartheg yn Llundain.  Oherwydd pwysigrwydd y ceffyl mewn cymuned amaethyddol, roedd yna efail yn y pentref.

1700-1900

Tuag at ddiwedd yddeunawfed ganrif, effeithwyd ar fywyd sawl un ar ôl ymweliad y diwygiwr Howell Harris.  Nid oedd ffordd fawr drwy Benllwyn dyn 1830, ond yn 1835, ymgymerodd cerbyd y Post Brenhinol â'i daith gyntaf o Aberystwyth i Gaerloyw, ar hyd y briffordd newydd.  Adeiladwyd Capel Penllwyn yn 1850;  ychwanegwyd estyniad i'r adeilad a bu'r rhan yma yn ysgol i blant y pentref am dros ganif.  Brodor o Benllwyn oedd Ieuan Gwyllt, arloeswr y Gymanfa Ganu.  Roedd ef ei hun awdur sawl emyn.  Ail agorwyd hen weithiau mwyn Cwmrheidol, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Mewfudwyr o Gernyw oedd llawer o'r mwynwyr, yn falch o dderbyn gwaith yn dilyn methiant y pyllau tun yno.  Un arall o enwogion yr ardal oedd Syr John Rhys, Ponterwyd, a gydnabyddir fel ysgolhaig Celtaidd.

1900-2000

Fel mewn ardaloedd eraill o Brydain Fawr, newidiwyd bywyd gan y Rhyfel Mawr (1914-1918).  Rhestrir enwau y rhai a gollwyd yn Eglwys Dewi Sant, Capel Bangor, ac adeiladwyd yn 1837.  Erbyn hyn, mae byd amaeth wedi'i fecaneiddio ac mae pêl-droed, y teledu a chanu pop yn chwarae rhan flaengar ym mywyd y rhan fwyaf ohonom.  Defnyddir fws neu fodur i fodur i fynd yn ôl a blaen i Aberystwyth, i siopa yn archfarchnadoedd y dre.  Mae yna dwristiaid yn ymweld â'r ardal a rhed trên bach Cwmrheidol drwy'r pentref, cyn dringo i Bontarfynach.  Rhaid mynd i'r dref i dderbyn triniaeth feddygol ond gwelir Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Ardal wrth eu gwaith yn lleol, yn rheolaidd.  Mae'r barcud coch wedi dycwelyd i nythu yn yr ardal.  Mae aelodau Sefydliad y Merched lleol yn cyfarfod yn rheolaidd yn Neuadd y Pentref, a adeiladwyd yn 1972, ac a welwyd, gyda chloc newydd i'r Mileniwm newydd ar 1af Ionawr, 2000.

Crëwyd y panel hwn gan aelodau Sefydliad y Merched, Penllwyn.  Fe'i trosglwyddwyd fel anrheg i Neuadd y Pentref, ym mis Hydref, 2000.

PENLLWYN, CAPEL BANGOR (1000-2000)

1000-1400

Life was bound by the agricultural year, with fields and livestock to be tended.  Wales's famous Fourteenth Century poet, Dafydd ap Gwilym was from Penrhyncoch an would have been familiar with the landscape of this area.  Cistercian monks from Llanbadarn and Strata Florida would have visited the community.  The River Rheidol was rich in salmon and sewin.

1400-1700

Owain Glyndwr may have picked up recruits here for his army, which fought at Hyddgen on Plynlimon.  Others may have joined Henry Tudor, who stopped at Llanbadarn on his was to Bosworth Field.  In Tudor times, merchants of Mid-West Wales grew rich on the proceeds of a flourishing wool trade; the Melindwr River turned the mill wheels of the district.  Drovers passed through on their way to sell their cattle in London.  As the horse was of great importance in an agrarian society, there was a forge in the village.

1700-1900

In the late Eighteenth Century, the lives of many were affected by a visit from the evangelist, Howell Harris.  Before 1830, there was no main road through Penllwyn, but in 1835 the Royal Mail Coach made it's first journey, from Aberystwyth to Gloucester, along the new highway.  The present Penllwyn Chapel was built in 1850; a later extension provided a school for village children for over a century.  A famous son of Penllwyn was Ieuan Gwyllt, who established the practice of the annual hymn-singing festival (Gymanfa Ganu) and wrote a number of Welsh hymns.  The lead mines of Cwmrheidol were revived in the Nineteenth Century and many of the miners employed there came from the falling tin-mines of Cornwall.  Another famous local name was that of Sir John Rhys, Ponterwyd, the Celtic Scholar.

1900-2000

As elsewhere in Great Britain, life changed by the Great War (1914-1918).  The names of those who died are listed in St. David's Church, Chapel Bangor, which was build in 1837.  Since that time, agriculture has become mechanised, and football, television and pop music play a large part in most people's lives; contact with Aberystwyth is made by car or bus and shoppers buy at the large supermarkets in town.  Tourists visit the area and the narrow gauge railway passes through on it's was to Devil's Bridge.  People generally have to travel to Aberystwyth for medical attention, although Health Visitors and District Nurses can provide some healthcare at home.  The rare Red Kite has come back to nest in the valley.  Members of the Women's Institute meet at the Village Hall, built in 1972, and improved through the addition of a Millennium Clock, on 1st January, 2000.

This panel was created by members of the Penllwyn Women's Institute, and presented by them, to the Village Hall in October 2000.